Cystuddiau mawrion o bob rhyw
Sy o fewn y byd
'rwi'n awr yn byw;
Pan darffo un daw'r llall yn glau,
Ac felly nghystudd i'n parhau.
On mwy nâ'm holl
gystuddiau o'r bron
Yw colli llewyrch
d'wyneb llon;
Dy absennoldeb, Iesu cu
'N rhyw ddirfawr boen i'm henaid sy.
Gronyn o'th hedd a'th garaid drud
A ettyb fy nghystuddiau gyd;
Ond rhyfedd iawn y rhinwedd sy
Mewn lleied gradd o'r nefoedd fry.
Nertha fi â'th hedd,
portha fi â'th ras,
Nes myn'd yn làn o'r byd i ma's;
Boddloni wnaf, O Arglwydd glân
I'm holl gystuddiau fawr a mân.
Ni ofna'i'r gelyn
gwycha ei wedd,
Ni ofna'i angau,
ni ofna'i'r bedd;
Ni ofna'i ddim ag sy'n y byd
Ond cael bod yn dy gôl o hyd.
William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd |
Great longings of every kind
Are still within the world
I am now living in;
When one fades the other comes quickly,
And thus in affliction I continue.
But greater than all my
afflictions altogether
Is losing the radiance
of thy cheerful face;
Thy absence, dear Jesus
Is a kind of enormous pain to my soul.
A grain of thy peace and thy precious love
Shall answer all my afflictions;
But very wonderful is the merit there is
In such a small degree of heaven above.
Strengthen me with thy peace,
feed my will thy grace,
Until going up out of the world;
I content myself I shall, O holy Lord,
With all my afflictions great and small.
I shall not fear the enemy
of the most brilliant countenance,
I shall not fear death,
I shall not fear the grave;
I shall fear nothing that is in the world
If only I get to be in thy bosom always.
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|